Trosglwyddo


Y Broses Trosglwyddo Ysgol Dewi Sant

Y Broses Trosglwyddo

Yma yn Ysgol Dewi Sant, rydym yn gwerthfawrogi y pwysigrwydd o drosglwyddo effeithiol o un cyfnod ar daith addysgol eich plentyn i'r nesaf. Dyma daflen sy'n rhannu gwybodaeth o'r hyn sydd i ddisgwyl yn y broses trosglwyddo ar hyd taith eich plentyn yma yn Ysgol Dewi Sant.

Cyn Meithrin

Ystyried Ysgol Dewi Sant fel ysgol i'ch plentyn? Dewch am dro i'n gweld, rydym yn hapus i'ch tywys o amgylch yr ysgol er mwyn i chi ddod i'n adnabod.

Noson Agored

Cewch wahoddiad yn nhymor yr Haf i noson agored cyn i'ch plentyn gychwyn yn y Meithrin. Bydd hyn yn gyfle i chi weld y dosbarth a dodi glywed beth yw trefn dyddiol y dosbarth.

Noson Agored mis Medi

Byddwch yn derbyn gwahoddiad i fynychu Noson Agored anffurfioli weld athro/awes eich plentyn ym mis Medi. Bydd hyn yn gyfle i drafod sut mae eich plentyn wedi ymgartrefu yn y dosbarth newydd.

Cyfnod trosglwyddo

Ar ddiwedd blwyddyn academaidd, bydd eich plentyn yn derbyn cyfnod yn eu dosbarth newydd. Mae hyn yn gyfnod cyffrous ac yn gwneud i'r plant edrych ymlaen at fis Medi.

Llyfryn trosglwyddo

Mae rhai plant yn pryderu am newidiadau. Ar gyfer y plant hyn byddem yn paratoi llyfryn trosglwyddo llawn lluniau a gwybodaeth am eu dosbarth ac athro/awes newydd. Bydd y llyfryn yn mynd adref gyda'r plentyn ar gyfer gwyliau yr Haf.

Uwchradd

Bydd sawl cyfle ich plentyn ymweld a'r ysgol Uwchradd cyn cychwyn yno. Mae hyn yn cynnwys Nosweithiau Agored, digwyddiadau chwaraeon a dyddiau trosglwyddo.

Cysylltu

Ysgol Gymraeg Dewi Sant,
Ffordd Rhuddlan,
Y Rhyl, Sir Ddinbych,
LL18 2RE

Ffôn: 01745 351355
Ffacs: 01745 351395
Trydar: @YsgolDewiSant
Ebost: dewi.sant@denbighshire.gov.uk

Yn yr adran yma: